Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir
15 Medi 2014
CLA427– Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu gweithdrefnau newydd ar gyfer ymdrin â chwynion i awdurdodau lleol ynghylch arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Nid yw sylwadau a wneir o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn dod o dan y Rheoliadau hyn, ond ymdrinnir â hwy o dan Reoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014. Bydd adroddiad ar wahân yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor.
CLA428– Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu gweithdrefnau newydd ar gyfer ymdrin â chwynion i awdurdodau lleol o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Ymdrinnir â chwynion sy'n ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill awdurdodau lleol o dan Reoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014. Bydd adroddiad ar wahân yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor.
CLA429 – Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, o ran Cymru, ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1307/2013, mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin.
Maent yn gwneud trefniadau i Weinidogion Cymru hysbysu ffermwyr am ddosbarthiad rhanbarthau talu dros dro eu parseli caeau at ddibenion hawlio cymorth o dan y cynllun taliad sylfaenol.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod tri rhanbarth yng Nghymru at ddibenion y cynllun taliad sylfaenol ac mae’n darparu mecanwaith i ffermwyr apelio yn erbyn dyfarniad gan Weinidogion Cymru o ran dosbarthiad rhanbarthau talu dros dro.
Noder bod y teitl yn cynnwys y geiriau ‘dros dro’. Os bydd newidiadau i’r rhanbarthau yn dilyn apeliadau llwyddiannus, bydd angen ail-wneud y Rheoliadau i gyfeirio at y map terfynol.
CLA430 – Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 drwy weithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) 2075/2014 mewn perthynas â Chymru drwy osod rheolaethau penodol ar gyfer Trichinella mewn cig. Maent hefyd yn gweithredu Rheoliadau'r Comisiwn 2018/2014 sy'n diwygio Atodiadau i Reoliadau (EC) Rhif 853/2204 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n dileu'r gofyniad am farc iechyd arbennig a'r cyfyngiad i’r farchnad genedlaethol ar gyfer cig anifeiliaid sydd wedi eu lladd mewn argyfwng.
CLA432 - Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) (Dirymu) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013. Golyga hyn bod cyllid a arferai fod ar gael ar gyfer un myfyriwr a oedd yn dymuno astudio naill ai yng Ngholeg Ewrop neu yn Johns Hopkins SAIS Europe yn Bologna, yr Eidal, wedi cael ei dynnu'n ôl.
CLA434 - Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008. Yn wreiddiol galwyd 'foundation phase' yn 'foundation stage' yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002. Yn ymarferol, yn Saesneg, roedd ymarferwyr yn cyfeirio at y 'foundation stage' fel y 'foundation phase'. O ganlyniad, roedd Mesur Addysg (Cymru) 2009 ("Mesur 2009") yn diwygio Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 er mwyn cyfeirio at y 'foundation phase' yn hytrach na'r 'foundation stage'. Yn sgil y newid a wnaed gan Fesur 2009, bernir yn briodol i ddirymu ac ail-wneud Gorchymyn 2008 i adlewyrchu yn y gyfraith y newid enw a ddefnyddir yn ymarferol er mwyn sicrhau cysondeb ac eglurder.
CLA435 - Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni
a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014 yn diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2011 i'w gwneud yn ofynnol i benaethiaid roi adroddiad am ganlyniadau'r asesiadau a gyflwynwyd gan Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014 i rieni a disgyblion sy'n oedolion.
CLA436 - Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi dyletswydd statudol ar ysgolion i asesu safonau cyffredinol dysgwyr, sy'n ymgymryd â'r Cyfnod Sylfaen a'r ail a'r trydydd cyfnod allweddol, mewn llythrennedd a rhifedd gan ddefnyddio'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.
CLA437 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 drwy ddarparu ar gyfer cynnydd o 1% yn ffioedd y GIG am brofion llygaid o 1 Ebrill 2014 ymlaen. Mae effaith ôl-weithredol y Rheoliadau yn cael ei ganiatáu o dan adran 76(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
CLA438 – Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Symiau) (Cymru) 2011 i ddarparu ar gyfer y trefniadau newydd o ran ffioedd dysgu a chymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sy'n mynd ar leoliad gwaith am flwyddyn neu sy'n treulio blwyddyn gyfan dramor fel rhan o'u hastudiaethau (rhaglenni Erasmus a rhaglenni heblaw Erasmus) o flwyddyn academaidd 2014-15 ymlaen.
Bydd gan sefydliadau sy'n darparu addysg uwch hawl i godi ffi o hyd at 15% o'r cap ar ffioedd y sefydliad ar fyfyrwyr Erasmus a myfyrwyr heblaw rhai Erasmus sy'n mynd ar leoliad dramor am flwyddyn gyfan.
Mae'n bosibl y bydd rhaid i fyfyrwyr (Erasmus ac eraill) sy'n mynd ar leoliad gwaith fel rhan o gwrs rhyngosod dalu ffi dysgu o hyd at 20% o uchafswm cap ffioedd y sefydliad.
CLA439 - Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi amser a dull cyhoeddi’r cynigion drafft ar gyfer diddymu corfforaethau addysg bellach ynghyd â chynnwys y cynigion drafft hynny. Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu manylion am y broses ymgynghori y mae’n rhaid ei dilyn, ynghyd â rhagnodi’r cyrff y gall corfforaeth addysg bellach drosglwyddo ei heiddo, ei hawliau a’i rhwymedigaethau iddynt pan gaiff ei diddymu.
CLA441 - Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2014
Gweithdrefn: Negyddol
Effaith y Gorchymyn hwn yw arfer y pŵer sydd gan Weinidogion Cymru o dan adran 113A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 i ganiatáu cynlluniau trafnidiaeth lleol i gael eu gwneud mewn perthynas â rhan yn unig o ardal awdurdod. Mae hefyd yn galluogi dau neu ragor o awdurdodau trafnidiaeth lleol i lunio cynllun trafnidiaeth lleol ar y cyd, yn hytrach nag ar sail awdurdod unigol, o ran y cyfan neu ran o'u hardal cyfunol.